Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai er mwyn helpu milfeddygon i reoli a monitro yn well, darparu deunydd ffilm er budd hyfforddiant ac ail-hyfforddi, atal camdrin anifeiliaid, fel y ffilmiwyd gan Animal Aid, ac fel tystiolaeth ar gyfer erlyniad mewn achosion o gamdrin.
Prif ddeisebydd: Animal Aid
Nifer y llofnodion: 1066